I Blaenau Gwent A Garem

Bgagaremwhite

Mae'r rhaglen ymgysylltu 'Y Blaenau Gwent a Garem' yn ymwneud â phobl leol, busnesau a sefydliadau yn cael llais ar sut y gallwn wella Blaenau Gwent ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rydym wedi siarad gyda dros 1,500 o bobl ym mhob rhan o Blaenau Gwent i ganfod sut yr hoffent i'r ardal fod yn y dyfodol. Defnyddiwyd eu hadborth i'n helpu i lunio nifer o flaenoriaethau y byddwn yn gweithio arnynt dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i'n helpu i greu'r Blaenau Gwent a garem i gyd.

Nawr rydym angen eich help i wneud i hyn ddigwydd! Rydym eisiau i chi ddweud wrthym beth y credwch sydd angen ei wneud ym Mlaenau Gwent i gyflawni ein blaenoriaethau, ac os gwyddoch am unrhyw waith da sydd eisoes yn digwydd. 

Cymerwch ran os gwelwch yn dda drwy lenwi’r ddolen i’n harolwg yn yr adran lawrlwytho ar y dde.