Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Beth yw’r Ddeddf?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson.

Bydd hyn yn ein helpu ni i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant.

 

Nodau llesiant

 

Pam mae angen y gyfraith hon?

Mae Cymru’n wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol, fel newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb iechyd a swyddi a thwf. I fynd i’r afael â’r rhain, mae’n rhaid i ni gydweithio. I roi i genedlaethau heddiw ac yfory fywyd o ansawdd da, mae’n rhaid i ni feddwl am effeithiau tymor hir ein penderfyniadau. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus ni’n gwneud hyn.

 

Pa gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan ddyletswydd llesiant y Ddeddf?

  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru