Cynllun Llesiant Blaenau Gwent

Croeso i ymgynghoriad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent ar ein Crynodeb o’n Cynllun Llesiant.

Mae'r ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos tan ddydd 21 Ionawr 2018.

Mae arnom angen eich barn ar ein cynllun drafft. Nid yn unig oherwydd bod eich barn yn bwysig iawn i ni, ond oherwydd bydd gan bawb ran i'w chwarae wrth gyflawni'r cynllun hwn. Mae arnom angen ennill cefnogaeth pobl a sefydliadau ledled Blaenau Gwent i'w wireddu.

Mae ein cynllun yn amlinellu ein hamcanion ar gyfer gwella llesiant ym Mlaenau Gwent a chyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Mae'n ganlyniad i broses helaeth o sgyrsiau parhaus gyda'r cyhoedd trwy’r rhaglen ymgysylltu Y Blaenau Gwent a Garem, gweithio'n agos gyda sefydliadau partner a dadansoddi'r dystiolaeth i lunio darlun manwl o sut mae llesiant yn edrych yma a'r hyn y gallwn ei wneud i'w wella.

Datblygwyd y 5 amcan yn y cynllun i adlewyrchu'r Blaenau Gwent a Garem ...

  • Y cychwyn gorau mewn bywyd i bawb
  • Cymunedau diogel a chyfeillgar
  • Edrych ar ôl ac amddiffyn yr amgylchedd naturiol
  • Llunio llwybrau newydd i ffyniant
  • Annog ffyrdd o fyw’n iach

Yr amcanion llesiant hyn yw'r rhai yr ydym o'r farn bod ganddynt bŵer go iawn i achosi newid, y rhai mwyaf brys a’r rhai y mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod angen grym cyfunol partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w cyflawni a gwella llesiant.

Mae'r Cynllun Llawn yma