Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sefydliadau Partner

  • Adnoddau Naturiol Cymru

    Adnoddau Naturiol Cymru

    Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn sicrhau bod yr amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u defnyddio mewn modd cynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.

    Go to website
  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl sy'n byw yng Ngwent. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi datblygu strwythurau ardal sy'n rhoi ffocws penodol i Flaenau Gwent. Mae hyn yn sicrhau fod partneriaethau a phobl leol yn ymgysylltu'n llawn wrth wella iechyd a lles.

    Go to website
  • Coleg Gwent

    Coleg Gwent

    Coleg Gwent yw coleg addysg bellach mwyaf Cymru. Mae ganddo fwy na 35,000 o fyfyrwyr yn amrywio o ymadawyr ysgol uwchradd i fyfyrwyr aeddfed. Maent yn cynnig ystod eang o gyrsiau academaidd a gweledigaethol hygyrch rhan-amser a llawn-amser.

    Go to website
  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

    Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

    Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn darparu gwasanaethau adsefydlu a rheoli troseddwyr i helpu i leihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd. Maent yn gweithio gyda throseddwyr risg isel a chanolig, yn rheoli eu dedfrydau cymunedol a rhoi iddynt wybodaeth, sgiliau a chefnogaeth er mwyn eu galluogi i roi'r gorau i droseddu.

    Go to website
  • Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent

    Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent

    Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am holl wasanaethau'r llywodraeth ym Mlaenau Gwent megis addysg, gwasanaethau gofal cymdeithasol, priffyrdd, hamdden a chynllunio. Mae'r Cyngor yn cyflogi staff mewn llawer o leoliadau ym mhob rhan o'r ardal mewn amrywiaeth eang o rolau. Mae 42 aelod etholedig yn cynrychioli cymunedau Blaenau Gwent.

    Go to website
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yw'r cyngor gwirfoddol lleol sy'n cefnogi cyrff trydydd sector sy'n gweithredu a chyflenwi gwasanaethau ym Mlaenau Gwent. Ym Mlaenau Gwent mae GAVO yn cefnogi dros 400 o fudiadau gwirfoddol yn cynnwys grwpiau cymunedol, grwpiau hunangymorth, mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol.

    Go to website
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn un o'r gwasanaethau tân ac achub mwyaf yn y Deyrnas Unedig yn gwasanaethu ardaloedd gwledig, trefol ac arfordirol. Mae'r gwasanaeth yn ymateb i fwy na 60,000 o alwadau argyfwng bob blwyddyn, yn amrywio o dannau i ddamweiniau ffordd, gweithgareddau achub i arllwysiadau cemegol.

    Go to website
  • Heddlu Gwent

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent yn gweithredu strwythur plismona modern i wasanaethu pobl Blaenau Gwent. Mae uned plismona leol ar gyfer Blaenau Gwent, lle mae Arolygydd penodol yn gweithredu pedwar tîm plismona cymdogaeth.

    Go to website
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Corff GIG yw Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd â'r bwriad o ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Yr ydym yn gwella ansawdd, cyfiawnder ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd ac amddiffyn pobl rhag peryglon heintus ac amgylcheddol.

    Go to website
  • Llywodraeth Cymru

    Llywodraeth Cymru

    Caiff Llywodraeth Cymru hefyd ei chynrychioli’n swyddogol ar Fwrdd Gwasanaeth Lleol Blaenau Gwent gan uwch swyddog sydd â'r rôl o wella datrys problemau, datrys gwrthdaro a rhoi her adeiladol.

    Go to website
  • Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd

    Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd

    Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (OPCC) yn rhoi cymorth i'r Comisiynydd wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau. Mae 14 o swyddogion ar hyn o bryd. Dan arweiniad y Pennaeth Staff, maent yn darparu ystod eang o gymorth a chyngor i'r Comisiynydd mewn meysydd megis cyfarfodydd ac ymgysylltu, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a pherfformiad, gan sicrhau bod y Comisiynydd gyda’r wybodaeth gyfredol ac wedi’i friffio ar unrhyw newidiadau polisi naill ai ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.

    Go to website
  • Tai Calon

    Tai Calon

    Lansiwyd Cartrefi Cymunedol Tai Calon ar 26 Gorffennaf 2010, a dyma'r landlord cymdeithasol mwyaf ym Mlaenau Gwent. Cafodd ei sefydlu ar ôl i denantiaid Blaenau Gwent bleidleisio o blaid trosglwyddo eu cartrefi i Tai Calon. Mae Tai Calon yn sefydliad "dim er elw" ac yn gwmni cymunedol cydfuddiannol sy'n golygu, fel mae'r enw'n awgrymu, fod tenantiaid yn ganolog i bopeth a wnânt.

    Go to website