Framwaith Partneriaeth

Rhan o'r broses o drosglwyddo o Fwrdd Gwasanaethau Lleol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd comisiynu adolygiad o'i Fframwaith Partneriaeth Strategol.

Roedd hyn yn golygu creu is-grwpiau newydd i gefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wrth gyflwyno'r cynllun integredig sengl presennol a datblygu cynllun llesiant 2018.

Bydd y strwythurau hyn a'u heffeithiolrwydd yn destun adolygiad parhaus a monitro perfformiad chwarterol. Wrth i’r cynlluniau Llesiant 2018 ddatblygu, gellid newid neu ddiwygio’r rhain fel eu bod orau yn diwallu anghenion y BGC a thrwy hynny anghenion Blaenau Gwent.