Newyddion

  • Y Blaenau Gwent a Garen - Dwy Flynedd o Gynnydd 2019-20

    Published: Dydd Mercher, 30 Medi 2020

    Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf 2019-20, yn amlinellu'r cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23'.

  • Datganiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20

    Published: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2020

    Mae gan y BGC ofyniad statudol i gynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion a nodir yn y Cynllun Llesiant: Y Blaenau Gwent a Garem 2018 i 2023. Yng ngoleuni'r heriau parhaus a wynebir wrth ymateb i bandemig COVID-19, y bwriad yw cyhoeddi'r adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer 2019/20 yn yr Hydref 2020, sydd ychydig yn hwyrach na'r arfer.

  • Ein Blwyddyn Gyntaf, 2018-19

    Published: Dydd Llun, 15 Gorffennaf 2019

    Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, 'Ein Blwyddyn Gyntaf, 2018-19', yn amlinellu'r cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at gyflawni ein pum nod llesiant yn ein cynllun llesiant lleol, 'Y Blaenau Gwent a Garem, 2018-23'. Lansiwyd yr adroddiad blynyddol yng Nghynhadledd Flynyddol y BGC, a gynhaliwyd yn Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ddydd Llun 15fed Gorffennaf 2019.

  • Lansio Cynllun Llesiant Blaenau Gwent

    Published: Dydd Iau, 21 Mehefin 2018

    Ym mis Mehefin 2018, lansiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Blaenau Gwent ei Gynllun Llesiant; "Y Blaenau Gwent a Garem 2018-2023" yn y digwyddiad bioamrywiaeth mwyaf yn Ne Cymru.

  • Cynllun Ardal Ranbarthol

    Published: Dydd Gwener, 2 Chwefror 2018

    All local authorities and health boards are required to prepare and publish a plan setting out the range and level of services they intend to provide, or arrange to provide, in response to a population needs assessment. Area plans must include the specific services planned in response to each core theme identified in the population assessment.

  • Gweithdy Blaenoriaethau Rhanddeiliaid

    Published: Dydd Iau, 26 Hydref 2017

    Ym mis Gorffennaf 2017 daeth dros chwe deg o sefydliadau a phrosiectau ym Mlaenau Gwent ynghyd i helpu llunio'r prif flaenoriaethau ar gyfer llesiant yr ardal yn y dyfodol. Arweiniwyd y gweithdy gan Stephen Gillingham, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ymunwyd ag ef gan Samuel Taylor, Dirprwy Faer Ieuenctid, a amlinellodd bwysisgrwydd cynllunio llesiant ar gyfer pobl ifanc, fel cenedlaethau'r dyfodol ym Mlaenau Gwent.

  • I Blaenau Gwent A Garem

    Published: Dydd Iau, 3 Awst 2017

    Rydym am i chi ein helpu i wneud Blaenau Gwent yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhwng nawr a 14 Medi 2017 gofynnwn i bobl leol edrych ar ein blaenoriaethau dechreuol ar gyfer gwella’r ardal a dweud wrthym beth y credant sydd ei angen i wneud i hynny ddigwydd. Cliciwch y pennawd uchod i gael mwy o wybodaeth a chymryd rhan.

  • BGC Newydd Blaenau Gwent

    Published: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017

    BGC Newydd Blaenau Gwent Er mwyn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), y mae Blaenau Gwent wedi cwblhau cyfnod pontio ei Fwrdd Gwasanaethau Lleol i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'n bodoli i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw yn ardal Blaenau Gwent.