Lansio Cynllun Llesiant Blaenau Gwent

Ym mis Mehefin 2018, lansiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Blaenau Gwent ei Gynllun Llesiant; "Y Blaenau Gwent a Garem 2018-2023" yn y digwyddiad bioamrywiaeth mwyaf yn Ne Cymru.

Daeth miloedd o ymwelwyr i Barc Bryn Bach, Tredegar ar gyfer Ewch yn Wyllt, y digwyddiad blaenllaw yn ystod Wythnos Natur. Nod y diwrnod teulu llawn hwyl hwn yw cysylltu pobl â natur a dathlu bioamrywiaeth leol.

Fel rhan o'r lansiad, dadorchuddiwyd sawl plac coffa yn y parc, gan gynnwys Cerdd y Dyfodol a ysgrifennwyd gan Charlotte, cyn ddisgybl o Ysgol Gynradd Sant Illtyd a Phrif Gyngor Plant Blaenau Gwent. Mae'r plac hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blannu dros 4,000 o goed brodorol a dolydd gwyllt a noddir gan y BGC.

Dywedodd Charlotte 'Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o achlysur mor arbennig ac i rannu'r profiad hwn gyda'm teulu a'n ffrindiau. Byddaf yn ymweld â Pharc Bryn Bach yn rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod i wylio'r coed yn tyfu! '

Datblygwyd y cynllun gyda chymorth pobl leol a chymunedau o'r ardal ac mae'n anelu at wella llesiant yr ardal, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Thema Ewch yn Wyllt eleni oedd 'Dyfodol fwy Eco-gyfeillgar', i godi ymwybyddiaeth o fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, gan ddarganfod ffyrdd o fod yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol; tra'n dysgu am yr hyn y gallwn ei wneud ar gyfer natur a'r hyn y gall natur ei wneud i ni.

Cafodd ymwelwyr gyfle i ddod i gysylltiad agos a phersonol gyda gwenynen mêl yn y Babell Profiad Gwenyn, cwrdd â thylluanod gwyllt, Rocky, yr ystlum, draenog a defaid  wyneb moch daear. Gallent ymuno â thaith gerdded natur dan arweiniad neu roi cynnig ar geo-caching a chael hwyl gyda llawer o weithgareddau crefftau eco. Ailddefnyddiodd disgyblion yr ysgol leol boteli plastig i greu arddangosfa liwgar dros 1500 o flodau plastig i amlygu llygredd plastig a'r pwysigrwydd i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Etifeddiaeth barhaol arall y dydd yw'r fainc pwrpasol a grëwyd gan Chris Wood-Wood Art Works, cerfiwr pren, o ffawydden a fethodd ym Mharc Bedwellty a fydd yn urddo'r parc am flynyddoedd lawer.

Cafodd ymwelwyr gyfle i siarad ag arbenigwyr am yr adnoddau bywyd gwyllt cyfoethog ym Mlaenau Gwent a sut i gymryd rhan gyda Beaufort Ponds ac roedd Woodlands Group  wrth law hefyd i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau lleol yn cymryd rhan mewn rheoli mannau gwyrdd lleol.

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Llesiant Blaenau Gwent, Y Blaenau Gwent a Garem 2018-23, cliciwch yma